top of page
IMG_7176.jpeg

Croeso i'n harddangosfeydd ar-lein israddedig ac uwchraddedig am 2022.

 

Yr arddangosfa israddedig yw uchafbwynt cyflawniadau ein myfyrwyr dros dair blynedd o astudio. Cyflawnwyd y gwaith a ddangosir yng nghyd-destun un modiwl yn semester olaf y myfyrwyr. Dim ond detholiad a welir yma. Cafodd astudiaethau, llyfrau braslunio, dyddiaduron gweledol, a deunyddiau paratoadol eu hasesu hefyd.

 

Yn achos yr uwchraddedigion, hon yw’r gyntaf o ddwy arddangosfa eu rhaglen Meistr. Mae eu harddangosfa ddiwedd blwyddyn yn ddatganiad cyfamserol o ddatblygiad eu doniau o ran techneg, arddull a chysyniadau.

 

Ers mis Ionawr 2022, rydym wedi gallu ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, mae llawer o brofiad prifysgol ein myfyrwyr yn ystod y pandemig wedi golygu newid nôl a blaen rhwng addysgu wyneb yn wyneb, ar-lein, cyfunol, a chymysg wrth ymateb i gyfarwyddiadau’r llywodraeth. Mewn rhai achosion, roedd amgylchiadau'n golygu bod angen iddynt fod yn ddyfeisgar a hyblyg, yn ogystal â newid cyfeiriad eu gwaith wrth i ystafelloedd stiwdio, gweithdai argraffu ac ystafelloedd tywyll orfod cau. Rwy'n dra diolchgar am ddealltwriaeth a chydweithrediad y myfyrwyr.

 

Hoffwn ddiolch i gydweithwyr amser llawn a rhan-amser – academaidd, technegol, curadurol a gweinyddol – am eu gwaith caled a'u hymroddiad i sicrhau'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr. Hoffwn ddiolch yn arbennig i Phil Garratt, Neil Holland a Karen Westendorf am gynnal ein harddangosfa wyneb yn wyneb ac ar-lein.

 

Dymunwn y gorau oll i'n graddedigion yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

 

Robert Meyrick

Athro a Phennaeth yr Ysgol

bottom of page