top of page
20170812_114752_edited_edited.jpg

Mae hwn yn rhybudd iaith!

Veronica Calarco: Arddangosfa PhD

 

Mae gwaith Veronica Calarco yn delweddu un o ieithoedd Awstralia sydd mewn perygl, Kurnai, mewn perthynas â iaith leiafrifol, Cymraeg, a ddefnyddir ganddi i ddisodli’r iaith gryfaf, Saesneg, sef yr iaith y mae’r ddwy arall yn rhyngweithio â hi.  

 

Trwy wneud printiau, paentio a gweu basgedi, mae gwaith Veronica yn archwilio enwi, geiriau, mythau, a synau sy’n dod i fod trwy gyfrwng y syniad o wlad. 

 

Artist o Awstralia sy’n byw yng Nghymru yw Veronica Calarco. Ar ôl cwblhau gradd Gwneud Printiau a gradd Uwchraddedig ym maes Gwehyddu yn Sefydliad y Celfyddydau, Prifysgol Genedlaethol Awstralia ganol y 1990au gweithiodd am ddegawd yn arlunydd cymunedol yn Canberra, The Kimberleys ac Alice Springs, tan iddi yn y pen draw benderfynu canolbwyntio ar wneud ei gwaith celf ei hun. Yn 2004 treuliodd Veronica ddeufis o wyliau yng Nghymru. Arweiniodd hyn at bron i ddegawd o fyw rhwng Cymru ac Awstralia, cyn iddi benderfynu ymgartrefu fwy neu lai yn barhaol yng Nghymru. Yn 2014 fe gymerodd Veronica Safon Uwch yn Gymraeg a sefydlu Stiwdio Maelor, sef rhaglen breswyl i artistiaid yng Nghorris, Gwynedd. Yn 2015 dechreuodd ar Ddoethuriaeth ym maes Gwneud Printiau yn yr Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth.

This is a language warning!

Veronica Calarco: PhD Exhibition

 

Veronica Calarco's work visualises an endangered Australian language, Kurnai, in relation to a minority language, Cymraeg, which she utilises to displace the dominant language, English, with which both languages interact.  

 

Working in printmaking, painting and basket weaving, Veronica's work explores naming, words, myths and sounds, realised through the notion of country. 

 

Veronica Calarco is an Australian artist living in Wales. After completing a degree in Printmaking and a Postgraduate degree in Weaving at the Institute of the Arts, Australia National University in the mid 1990 she worked for a decade as a community artist in Canberra, The Kimberleys and Alice Springs, until eventually deciding to focus on her own art practice. In 2004 Veronica spent a two-month holiday in Wales. This led to nearly a decade of living between Wales and Australia, before she finally decided to settle more or less permanently in Wales. In 2014 Veronica took an ‘A’ level in Welsh and established Stiwdio Maelor, an artist residency program in Corris, Gwynedd. In 2015 she began her PhD in printmaking at Aberystwyth University School of Art.

​

bottom of page